34 Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gymydog a phob un ei berthynas, gan ddweud, ‘Adnebydd yr ARGLWYDD’; oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd maddeuaf iddynt eu drygioni, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy.”
35 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,sy'n rhoi'r haul yn oleuni'r dydd,a threfn y lleuad a'r sêr yn oleuni'r nos,sy'n cynhyrfu'r môr nes bod ei donnau'n rhuo(ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw):
36 “Os cilia'r drefn hon o'm gŵydd,” medd yr ARGLWYDD,“yna bydd had Israel yn peidio hyd byth â bod yn genedl ger fy mron.”
37 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Pe gellid mesur y nefoedd fry,a chwilio sylfeini'r ddaear isod,gwrthodwn innau hefyd holl had Israelam yr holl bethau a wnaethant,” medd yr ARGLWYDD.
38 “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr ailadeiledir y ddinas i'r ARGLWYDD, o dŵr Hananel hyd Borth y Gongl,
39 a gosodir y llinyn mesur eto gyferbyn â hi, dros fryn Gareb, a throi tua Goath.
40 A bydd holl ddyffryn y celanedd a'r lludw, a'r holl feysydd hyd nant Cidron, hyd gongl Porth y Meirch yn y dwyrain, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. Ni ddiwreiddir mo'r ddinas, ac ni ddymchwelir mohoni mwyach hyd byth.”