4 Adeiladaf di drachefn, y wyryf Israel, a chei dy adeiladu;cei ymdrwsio eto â'th dympanau, a mynd allan yn llawen i'r ddawns.
5 Cei blannu eto winllannoedd ar fryniau Samaria,a'r rhai sy'n plannu fydd yn cymryd y ffrwyth.
6 Oherwydd daw dydd pan fydd gwylwyr ym Mynydd Effraim yn galw,‘Codwch, dringwn i Seion at yr ARGLWYDD ein Duw.’ ”
7 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Canwch orfoledd i Jacob, a chodwch gân i'r bennaf o'r cenhedloedd;cyhoeddwch, molwch a dywedwch,‘Gwaredodd yr ARGLWYDD dy bobl, sef gweddill Israel.’
8 “Ie, dygaf hwy o dir y gogledd, casglaf hwy o bellafoedd byd;gyda hwy daw'r dall a'r cloff, y feichiog ynghyd â'r hon sy'n esgor;yn gynulliad mawr fe ddychwelant yma.
9 Dônt dan wylo, ond arweiniaf fi hwy â thosturi,tywysaf hwy wrth ffrydiau dyfroeddar ffordd union na faglant ynddi.Yr wyf yn dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntafanedig.
10 “Clywch air yr ARGLWYDD, genhedloedd;cyhoeddwch yn yr ynysoedd pell, a dweud,‘Yr un a wasgarodd Israel fydd yn ei gasglu;bydd yn gwylio drosto fel bugail dros ei braidd.’