8 “Ie, dygaf hwy o dir y gogledd, casglaf hwy o bellafoedd byd;gyda hwy daw'r dall a'r cloff, y feichiog ynghyd â'r hon sy'n esgor;yn gynulliad mawr fe ddychwelant yma.
9 Dônt dan wylo, ond arweiniaf fi hwy â thosturi,tywysaf hwy wrth ffrydiau dyfroeddar ffordd union na faglant ynddi.Yr wyf yn dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntafanedig.
10 “Clywch air yr ARGLWYDD, genhedloedd;cyhoeddwch yn yr ynysoedd pell, a dweud,‘Yr un a wasgarodd Israel fydd yn ei gasglu;bydd yn gwylio drosto fel bugail dros ei braidd.’
11 Canys yr ARGLWYDD a waredodd Jacob,a'i achub o afael un trech nag ef.
12 Dônt a chanu yn uchelder Seion;ymddisgleiriant gan ddaioni'r ARGLWYDD,oherwydd yr ŷd a'r gwin a'r olew,ac oherwydd epil y defaid a'r gwartheg.A bydd eu bywyd fel gardd ddyfradwy, heb ddim nychdod mwyach.
13 Yna fe lawenha'r ferch mewn dawns,a'r gwŷr ifainc a'r hen hefyd ynghyd;trof eu galar yn orfoledd a diddanaf hwy;gwnaf eu llawenydd yn fwy na'u gofid.
14 Diwallaf yr offeiriaid â braster,a digonir fy mhobl â'm daioni,” medd yr ARGLWYDD.