1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD yn nyddiau Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, a dweud,
2 “Dos i dŷ'r Rechabiaid, a siarad â hwy; pâr iddynt ddod i dŷ'r ARGLWYDD, i un o'r ystafelloedd yno, a chynnig iddynt win i'w yfed.”
3 Yna cymerais Jaasaneia, mab Jeremeia fab Habasineia, a'i frodyr, a'i holl feibion, a holl deulu'r Rechabiaid.
4 Deuthum â hwy i dŷ'r ARGLWYDD, i ystafell meibion Hanan fab Igdaleia, gŵr Duw, sef yr ystafell sydd yn ymyl ystafell y tywysogion, ac uwchben ystafell Maaseia fab Salum, ceidwad y drws.