15 Dywedasant hwythau wrtho, “Eistedd yma, a darllen hi inni.” Darllenodd Baruch,
16 a phan glywsant y geiriau, troesant at ei gilydd mewn braw, a dweud wrth Baruch, “Rhaid inni fynegi hyn i gyd i'r brenin.”
17 Gofynasant i Baruch, “Eglura inni yn awr sut y bu iti ysgrifennu'r holl eiriau hyn a ddywedodd.”
18 Atebodd Baruch, “Ef ei hun oedd yn llefaru wrthyf yr holl eiriau hyn, a minnau'n eu hysgrifennu ag inc ar y sgrôl.”
19 Yna dywedodd y swyddogion wrth Baruch, “Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia, a pheidiwch â gadael i neb wybod lle'r ydych.”
20 Yna aethant at y brenin i'r llys, ar ôl iddynt gadw'r sgrôl yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd, a mynegwyd y cwbl yng nghlyw'r brenin.
21 Yna anfonwyd Jehudi gan y brenin i gyrchu'r sgrôl, a daeth yntau â hi o ystafell Elisama yr ysgrifennydd; a darllenodd Jehudi hi yng nghlyw'r brenin a'r holl swyddogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.