4 Yna galwodd Jeremeia ar Baruch fab Nereia, ac wrth i Jeremeia lefaru ysgrifennodd Baruch yn y sgrôl yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia.
5 Yna rhoes y gorchymyn hwn i Baruch: “Fe'm rhwystrwyd i rhag mynd i dŷ'r ARGLWYDD,
6 ond dos di, ac ar ddydd ympryd darllen o'r sgrôl, yng nghlyw'r bobl yn nhŷ'r ARGLWYDD, holl eiriau'r ARGLWYDD fel y lleferais hwy. Darllen hwy hefyd yng nghlyw holl bobl Jwda a ddaw o'u dinasoedd.
7 Efallai y derbynnir eu gweddi gan yr ARGLWYDD, ac y bydd pob un yn troi o'i ffordd ddrygionus, oherwydd y mae'r llid a'r digofaint a fynegodd yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl hyn yn fawr.”
8 Gwnaeth Baruch fab Nereia bob peth a orchmynnodd y proffwyd Jeremeia iddo, a darllenodd yn nhŷ'r ARGLWYDD eiriau'r ARGLWYDD o'r llyfr.
9 Yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, yn y nawfed mis, cyhoeddwyd ympryd gerbron yr ARGLWYDD i drigolion Jerwsalem ac i'r holl bobl a ddaeth o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.
10 Yna darllenodd Baruch holl eiriau Jeremeia o'r sgrôl yng nghlyw'r holl bobl yn nhŷ'r ARGLWYDD, yn ystafell Gemareia fab Saffan, yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf wrth y fynedfa i'r Porth Newydd yn nhŷ'r ARGLWYDD.