8 Gwnaeth Baruch fab Nereia bob peth a orchmynnodd y proffwyd Jeremeia iddo, a darllenodd yn nhŷ'r ARGLWYDD eiriau'r ARGLWYDD o'r llyfr.
9 Yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, yn y nawfed mis, cyhoeddwyd ympryd gerbron yr ARGLWYDD i drigolion Jerwsalem ac i'r holl bobl a ddaeth o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.
10 Yna darllenodd Baruch holl eiriau Jeremeia o'r sgrôl yng nghlyw'r holl bobl yn nhŷ'r ARGLWYDD, yn ystafell Gemareia fab Saffan, yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf wrth y fynedfa i'r Porth Newydd yn nhŷ'r ARGLWYDD.
11 Pan glywodd Michaia fab Gemareia, fab Saffan, holl eiriau'r ARGLWYDD o'r llyfr,
12 aeth i lawr i dŷ'r brenin, i ystafell yr ysgrifennydd, ac yno yr oedd yr holl swyddogion yn eistedd: Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia fab Semaia, ac Elnathan fab Achbor, a Gemareia fab Saffan, a Sedeceia fab Hananeia, a'r holl swyddogion.
13 Mynegodd Michaia iddynt bob peth a glywodd pan ddarllenodd Baruch o'r sgrôl yng nghlyw'r bobl.
14 Yna anfonodd yr holl swyddogion Jehudi fab Nethaneia, fab Selemeia, fab Cushi, at Baruch a dweud, “Cymer yn dy law y sgrôl a ddarllenaist yng nghlyw'r bobl, a thyrd.” Cymerodd Baruch fab Nereia y sgrôl yn ei law, ac aeth atynt.