10 Yna gorchmynnodd y brenin i Ebed-melech yr Ethiopiad, “Cymer gyda thi dri o wŷr, a chodi'r proffwyd Jeremeia o'r pydew cyn iddo farw.”
11 Cymerodd Ebed-melech y gwŷr ac aeth i'r ystafell wisgo yn y plasty, a chymryd oddi yno hen garpiau a hen fratiau, a'u gollwng i lawr wrth raffau at Jeremeia yn y pydew.
12 A dywedodd Ebed-melech yr Ethiopiad wrth Jeremeia, “Gosod yr hen garpiau a'r bratiau dan dy geseiliau o dan y rhaffau.” Gwnaeth Jeremeia felly.
13 A thynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, a'i godi o'r pydew. Wedi hyn arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr.
14 Anfonodd y Brenin Sedeceia i gyrchu'r proffwyd Jeremeia ato yn y trydydd cyntedd i dŷ'r ARGLWYDD, a dywedodd wrth Jeremeia, “Yr wyf am ofyn rhywbeth i ti; paid â chelu dim oddi wrthyf.”
15 Dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, “Os mynegaf i ti, oni roi fi i farwolaeth? Os rhof gyngor i ti, ni wrandewi arnaf.”
16 Ond tyngodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia yn gyfrinachol, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD, a roes einioes inni, yn fyw, ni'th rof i farwolaeth, na'th roi yng ngafael y rhai hyn sy'n ceisio dy einioes.”