11 Cymerodd Ebed-melech y gwŷr ac aeth i'r ystafell wisgo yn y plasty, a chymryd oddi yno hen garpiau a hen fratiau, a'u gollwng i lawr wrth raffau at Jeremeia yn y pydew.
12 A dywedodd Ebed-melech yr Ethiopiad wrth Jeremeia, “Gosod yr hen garpiau a'r bratiau dan dy geseiliau o dan y rhaffau.” Gwnaeth Jeremeia felly.
13 A thynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, a'i godi o'r pydew. Wedi hyn arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr.
14 Anfonodd y Brenin Sedeceia i gyrchu'r proffwyd Jeremeia ato yn y trydydd cyntedd i dŷ'r ARGLWYDD, a dywedodd wrth Jeremeia, “Yr wyf am ofyn rhywbeth i ti; paid â chelu dim oddi wrthyf.”
15 Dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, “Os mynegaf i ti, oni roi fi i farwolaeth? Os rhof gyngor i ti, ni wrandewi arnaf.”
16 Ond tyngodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia yn gyfrinachol, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD, a roes einioes inni, yn fyw, ni'th rof i farwolaeth, na'th roi yng ngafael y rhai hyn sy'n ceisio dy einioes.”
17 Yna dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, Duw Israel: ‘Os ei allan ac ymostwng i swyddogion brenin Babilon, yna byddi fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; byddi fyw, ti a'th dylwyth.