14 Anfonodd y Brenin Sedeceia i gyrchu'r proffwyd Jeremeia ato yn y trydydd cyntedd i dŷ'r ARGLWYDD, a dywedodd wrth Jeremeia, “Yr wyf am ofyn rhywbeth i ti; paid â chelu dim oddi wrthyf.”
15 Dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, “Os mynegaf i ti, oni roi fi i farwolaeth? Os rhof gyngor i ti, ni wrandewi arnaf.”
16 Ond tyngodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia yn gyfrinachol, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD, a roes einioes inni, yn fyw, ni'th rof i farwolaeth, na'th roi yng ngafael y rhai hyn sy'n ceisio dy einioes.”
17 Yna dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, Duw Israel: ‘Os ei allan ac ymostwng i swyddogion brenin Babilon, yna byddi fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; byddi fyw, ti a'th dylwyth.
18 Os nad ei allan at swyddogion brenin Babilon, rhoir y ddinas hon yng ngafael y Caldeaid, ac fe'i llosgant hi â thân, ac ni fyddi dithau'n dianc o'u gafael.’ ”
19 A dywedodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia, “Y mae arnaf ofn yr Iddewon a drodd at y Caldeaid, rhag iddynt fy rhoi yn eu gafael ac iddynt fy ngham-drin.”
20 Dywedodd Jeremeia, “Ni'th roddir yn eu gafael. Gwrando yn awr ar lais yr ARGLWYDD yn yr hyn yr wyf yn ei lefaru wrthyt, a bydd yn dda iti, a chedwir dy einioes.