18 Os nad ei allan at swyddogion brenin Babilon, rhoir y ddinas hon yng ngafael y Caldeaid, ac fe'i llosgant hi â thân, ac ni fyddi dithau'n dianc o'u gafael.’ ”
19 A dywedodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia, “Y mae arnaf ofn yr Iddewon a drodd at y Caldeaid, rhag iddynt fy rhoi yn eu gafael ac iddynt fy ngham-drin.”
20 Dywedodd Jeremeia, “Ni'th roddir yn eu gafael. Gwrando yn awr ar lais yr ARGLWYDD yn yr hyn yr wyf yn ei lefaru wrthyt, a bydd yn dda iti, a chedwir dy einioes.
21 Os gwrthodi fynd allan, dyma'r gair a ddatguddiodd yr ARGLWYDD i mi:
22 ‘Wele, caiff yr holl wragedd a adawyd yn nhŷ brenin Jwda eu dwyn allan at swyddogion brenin Babilon, ac fe ddywedant,“Hudodd dy gyfeillion di, a buont yn drech na thi;yn awr, a'th draed wedi glynu yn y llaid, troesant draw oddi wrthyt.’ ”
23 Dygir allan dy holl wragedd a'th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o'u gafael, ond fe'th ddelir yng ngafael brenin Babilon, a llosgir y ddinas hon â thân.”
24 Yna dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, “Paid â gadael i neb wybod am y geiriau hyn, ac ni fyddi farw.