4 Yna dywedodd y swyddogion wrth y brenin, “Atolwg, rhodder y dyn hwn i farwolaeth; oblegid y mae'n gwanhau dwylo gweddill y milwyr sydd yn y ddinas hon, a phawb o'r bobl, trwy lefaru fel hyn wrthynt. Nid yw'r dyn yn meddwl am les y bobl hyn, ond am eu niwed.”
5 Atebodd y Brenin Sedeceia, “Y mae yn eich dwylo chwi; ni ddichon y brenin wneud dim i'ch gwrthwynebu yn y mater.”
6 A chymerasant Jeremeia, a'i fwrw i bydew Malcheia, mab y brenin, yng nghyntedd y gwylwyr; gollyngasant Jeremeia i lawr wrth raffau. Nid oedd dŵr yn y pydew, dim ond llaid, a suddodd Jeremeia yn y llaid.
7 Clywodd Ebed-melech yr Ethiopiad, eunuch ym mhlasty'r brenin, eu bod wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Yr oedd y brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,
8 ac aeth Ebed-melech allan o'r plasty at y brenin a dweud,
9 “F'arglwydd frenin, gwnaeth y gwŷr hyn ddrwg ym mhob peth a wnaethant i'r proffwyd Jeremeia, trwy ei fwrw i'r pydew; bydd farw yn y lle gan y newyn, am nad oes bara mwyach yn y ddinas.”
10 Yna gorchmynnodd y brenin i Ebed-melech yr Ethiopiad, “Cymer gyda thi dri o wŷr, a chodi'r proffwyd Jeremeia o'r pydew cyn iddo farw.”