1 “Os dychweli, Israel,” medd yr ARGLWYDD, “os dychweli ataf fi,a rhoi heibio dy ffieidd-dra o'm gŵydd, a pheidio â simsanu,
2 ac os tyngi mewn gwirionedd, mewn barn a chyfiawnder, ‘Byw yw yr ARGLWYDD’,yna fe ymfendithia'r cenhedloedd ynddo, ac ymglodfori ynddo.”
3 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth bobl Jwda a Jerwsalem:“Braenarwch i chwi fraenar, a pheidiwch â hau mewn drain.
4 Ymenwaedwch i'r ARGLWYDD, symudwch flaengroen eich calon,bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem,rhag i'm digofaint ddod allan fel tâna llosgi heb neb i'w ddiffodd,oherwydd drygioni eich gweithredoedd.”