19 Fy ngwewyr! Fy ngwewyr! Rwy'n gwingo mewn poen.O, barwydydd fy nghalon!Y mae fy nghalon yn derfysg ynof; ni allaf dewi.Canys clywaf sain utgorn, twrf rhyfel.
20 Daw dinistr ar ddinistr, anrheithir yr holl dir.Yn ddisymwth anrheithir fy mhebyll, a'm llenni mewn eiliad.
21 Pa hyd yr edrychaf ar faner,ac y gwrandawaf ar sain utgorn?
22 Y mae fy mhobl yn ynfyd, nid ydynt yn fy adnabod i;plant angall ydynt, nid rhai deallus mohonynt.Y maent yn fedrus i wneud drygioni, ond ni wyddant sut i wneud daioni.
23 Edrychais tua'r ddaear—afluniaidd a gwag ydoedd;tua'r nefoedd—ond nid oedd yno oleuni.
24 Edrychais tua'r mynyddoedd,ac wele hwy'n crynu,a'r holl fryniau yn gwegian.
25 Edrychais, ac wele, nid oedd neb oll;ac yr oedd holl adar y nefoedd wedi cilio.