2 ac os tyngi mewn gwirionedd, mewn barn a chyfiawnder, ‘Byw yw yr ARGLWYDD’,yna fe ymfendithia'r cenhedloedd ynddo, ac ymglodfori ynddo.”
3 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth bobl Jwda a Jerwsalem:“Braenarwch i chwi fraenar, a pheidiwch â hau mewn drain.
4 Ymenwaedwch i'r ARGLWYDD, symudwch flaengroen eich calon,bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem,rhag i'm digofaint ddod allan fel tâna llosgi heb neb i'w ddiffodd,oherwydd drygioni eich gweithredoedd.”
5 “Mynegwch yn Jwda, cyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch,‘Canwch utgorn yn y tir, bloeddiwch yn uchel.’A dywedwch, ‘Ymgynullwch, ac awn i'r dinasoedd caerog.’
6 Codwch, ffowch tua Seion, ffowch heb sefyllian;oherwydd dygaf ddrygioni o'r gogledd, a dinistr mawr.
7 Daeth llew i fyny o'i loches, cychwynnodd difethwr y cenhedloedd,a daeth allan o'i drigle i wneud dy dir yn anrhaith,ac fe ddinistrir dy ddinasoedd heb breswyliwr.
8 Am hyn ymwregyswch â sachliain, galarwch ac udwch;oherwydd nid yw angerdd llid yr ARGLWYDD wedi troi oddi wrthym.