22 Y mae fy mhobl yn ynfyd, nid ydynt yn fy adnabod i;plant angall ydynt, nid rhai deallus mohonynt.Y maent yn fedrus i wneud drygioni, ond ni wyddant sut i wneud daioni.
23 Edrychais tua'r ddaear—afluniaidd a gwag ydoedd;tua'r nefoedd—ond nid oedd yno oleuni.
24 Edrychais tua'r mynyddoedd,ac wele hwy'n crynu,a'r holl fryniau yn gwegian.
25 Edrychais, ac wele, nid oedd neb oll;ac yr oedd holl adar y nefoedd wedi cilio.
26 Edrychais, ac wele'r dolydd yn ddiffeithwch,a'r holl ddinasoedd yn ddinistr,o achos yr ARGLWYDD, o achos angerdd ei lid.
27 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Bydd yr holl wlad yn anrhaith,ond ni wnaf ddiwedd arni.
28 Am hyn fe alara'r ddaear, ac fe dywylla'r nefoedd fry,oherwydd imi fynegi fy mwriad;ac ni fydd yn edifar gennyf, ac ni throf yn ôl oddi wrtho.”