24 Edrychais tua'r mynyddoedd,ac wele hwy'n crynu,a'r holl fryniau yn gwegian.
25 Edrychais, ac wele, nid oedd neb oll;ac yr oedd holl adar y nefoedd wedi cilio.
26 Edrychais, ac wele'r dolydd yn ddiffeithwch,a'r holl ddinasoedd yn ddinistr,o achos yr ARGLWYDD, o achos angerdd ei lid.
27 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Bydd yr holl wlad yn anrhaith,ond ni wnaf ddiwedd arni.
28 Am hyn fe alara'r ddaear, ac fe dywylla'r nefoedd fry,oherwydd imi fynegi fy mwriad;ac ni fydd yn edifar gennyf, ac ni throf yn ôl oddi wrtho.”
29 Rhag trwst marchogion a phlygwyr bwa y mae'r holl ddinas yn ffoi,yn mynd i'r drysni ac yn dringo i'r creigiau.Gadewir yr holl ddinasoedd heb neb i drigo ynddynt.
30 A thithau'n anrheithiedig,beth wyt ti'n ei wneud wedi dy wisgo ag ysgarlad,ac wedi ymdrwsio â thlysau aur, a lliwio dy lygaid?Yn ofer yr wyt yn dy wneud dy hun yn deg.Bydd dy gariadon yn dy ddirmygu,ac yn ceisio dy einioes.