28 Am hyn fe alara'r ddaear, ac fe dywylla'r nefoedd fry,oherwydd imi fynegi fy mwriad;ac ni fydd yn edifar gennyf, ac ni throf yn ôl oddi wrtho.”
29 Rhag trwst marchogion a phlygwyr bwa y mae'r holl ddinas yn ffoi,yn mynd i'r drysni ac yn dringo i'r creigiau.Gadewir yr holl ddinasoedd heb neb i drigo ynddynt.
30 A thithau'n anrheithiedig,beth wyt ti'n ei wneud wedi dy wisgo ag ysgarlad,ac wedi ymdrwsio â thlysau aur, a lliwio dy lygaid?Yn ofer yr wyt yn dy wneud dy hun yn deg.Bydd dy gariadon yn dy ddirmygu,ac yn ceisio dy einioes.
31 Ie, clywaf gri fel gwraig yn esgor,llef ingol fel un yn esgor ar ei chyntafanedig—cri merch Seion yn ochain, ac yn gwasgu ar ei dwylo:“Gwae fi! Rwy'n diffygio, a'r lleiddiaid am fy einioes.”