15 Ond dihangodd Ismael fab Nethaneia, ac wyth o ddynion gydag ef, oddi wrth Johanan, a mynd drosodd at yr Ammoniaid.
16 Yna cymerodd Johanan fab Carea a swyddogion ei luoedd bawb oedd ar ôl o'r bobl yr oedd Ismael fab Nethaneia wedi eu dwyn o Mispa, ar ôl iddo ladd Gedaleia fab Ahicam. Dygodd ef yn ôl o Gibeon ddynion a gwŷr rhyfel, gwragedd a phlant ac eunuchiaid.
17 Aethant oddi yno ac aros yn llety Chimham, yn ymyl Bethlehem, ar eu ffordd wrth ffoi i'r Aifft
18 rhag y Caldeaid; oblegid yr oeddent yn eu hofni hwy am fod Ismael fab Nethaneia wedi lladd Gedaleia fab Ahicam, y gŵr a osododd brenin Babilon yn arolygydd dros y wlad.