2 cododd Ismael fab Nethaneia a'r dengwr, a tharo Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, â'r cleddyf, a lladd yr un oedd wedi ei osod gan frenin Babilon yn arolygydd dros y wlad.
3 Hefyd lladdodd Ismael yr holl Iddewon oedd gyda Gedaleia yn Mispa, a milwyr y Caldeaid a oedd yn digwydd bod yno.
4 Trannoeth wedi lladd Gedaleia, cyn bod neb yn gwybod,
5 daeth gwŷr o Sichem a Seilo a Samaria, pedwar ugain ohonynt, wedi eillio'u barfau a rhwygo'u dillad ac archolli eu cyrff, â bwydoffrymau a thus yn eu dwylo i'w dwyn i deml yr ARGLWYDD.
6 Yna daeth Ismael fab Nethaneia allan o Mispa i gyfarfod â hwy, gan wylo wrth ddod. Pan gyfarfu â hwy dywedodd, “Dewch at Gedaleia fab Ahicam.”
7 Wedi iddynt gyrraedd canol y ddinas, lladdwyd hwy gan Ismael fab Nethaneia a'r gwŷr oedd gydag ef, a'u bwrw i bydew.
8 Ond dywedodd deg o ddynion o'u plith wrth Ismael, “Paid â'n lladd ni, oherwydd y mae gennym yn y maes gronfa gudd o wenith a haidd ac olew a mêl.” Felly ni laddwyd y rhain gyda'u cymdeithion.