1 Nesaodd swyddogion y lluoedd, a Johanan fab Carea a Jesaneia fab Hosaia, a'r holl bobl yn fach a mawr,
2 a dweud wrth y proffwyd Jeremeia, “Os gweli'n dda, ystyria'n cais, a gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a thros yr holl weddill hyn, oherwydd gadawyd ni'n ychydig allan o nifer mawr, fel y gweli.
3 Dyweded yr ARGLWYDD dy Dduw wrthym y ffordd y dylem rodio a'r hyn y dylem ei wneud.”
4 Atebodd y proffwyd Jeremeia hwy, “Gwnaf, mi weddïaf drosoch ar yr ARGLWYDD eich Duw yn ôl eich cais, a beth bynnag fydd ateb yr ARGLWYDD, fe'i mynegaf heb atal dim oddi wrthych.”
5 Dywedasant hwythau wrth Jeremeia, “Bydded yr ARGLWYDD yn dyst cywir a ffyddlon yn ein herbyn os na wnawn yn ôl pob gair y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei orchymyn inni. Yn sicr, fe'i gwnawn.
6 Boed dda neu ddrwg, fe wrandawn ni ar yr ARGLWYDD ein Duw, yr anfonwn di ato, fel y byddo'n dda inni; gwrandawn ar yr ARGLWYDD ein Duw.”
7 Ymhen deg diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia,