18 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Fel y tywalltwyd fy llid a'm digofaint ar drigolion Jerwsalem, felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau pan ewch i'r Aifft. Byddwch yn destun melltith ac arswyd, gwawd a gwarth; ac ni chewch weld y lle hwn byth eto.’