5 Dywedasant hwythau wrth Jeremeia, “Bydded yr ARGLWYDD yn dyst cywir a ffyddlon yn ein herbyn os na wnawn yn ôl pob gair y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei orchymyn inni. Yn sicr, fe'i gwnawn.
6 Boed dda neu ddrwg, fe wrandawn ni ar yr ARGLWYDD ein Duw, yr anfonwn di ato, fel y byddo'n dda inni; gwrandawn ar yr ARGLWYDD ein Duw.”
7 Ymhen deg diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia,
8 a galwodd ato Johanan fab Carea a swyddogion y lluoedd oedd gydag ef, a'r holl bobl yn fach a mawr,
9 a dweud wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr anfonasoch fi ato i gyflwyno eich cais iddo:
10 ‘Os arhoswch yn y wlad hon, fe'ch adeiladaf, ac nid eich tynnu i lawr; fe'ch plannaf, ac nid eich diwreiddio, oherwydd rwy'n gofidio am y drwg a wneuthum i chwi.
11 Peidiwch ag ofni rhag brenin Babilon, yr un y mae arnoch ei ofn; peidiwch â'i ofni ef,’ medd yr ARGLWYDD, ‘canys byddaf gyda chwi i'ch achub a'ch gwaredu o'i afael.