8 a galwodd ato Johanan fab Carea a swyddogion y lluoedd oedd gydag ef, a'r holl bobl yn fach a mawr,
9 a dweud wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr anfonasoch fi ato i gyflwyno eich cais iddo:
10 ‘Os arhoswch yn y wlad hon, fe'ch adeiladaf, ac nid eich tynnu i lawr; fe'ch plannaf, ac nid eich diwreiddio, oherwydd rwy'n gofidio am y drwg a wneuthum i chwi.
11 Peidiwch ag ofni rhag brenin Babilon, yr un y mae arnoch ei ofn; peidiwch â'i ofni ef,’ medd yr ARGLWYDD, ‘canys byddaf gyda chwi i'ch achub a'ch gwaredu o'i afael.
12 Gwnaf drugaredd â chwi, a bydd ef yn trugarhau wrthych ac yn eich adfer i'ch gwlad eich hun.
13 Ond os dywedwch, “Nid arhoswn yn y wlad hon”, gan wrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw,
14 a dweud, “Nage, ond fe awn i'r Aifft; ni welwn ryfel yno na chlywed sain utgorn na bod mewn newyn am fara, ac yno y trigwn”,