11 “Bu'n esmwyth ar Moab erioed;gorffwysodd fel gwin ar ei waddod;nis tywalltwyd o lestr i lestr;nid aeth hi i gaethiwed.Felly y cadwodd ei blas,ac ni newidiodd ei sawr.
12 “Am hynny, wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr anfonaf rai i'w hysgwyd; ac ysgydwant hi, a gwacáu ei llestri a dryllio'r costrelau.
13 A chywilyddir Moab o achos Cemos, fel y cywilyddiwyd Israel o achos Bethel, eu hyder hwy.
14 “Pa fodd y dywedwch, ‘Cedyrn ŷm ni,a gwŷr nerthol i ryfel’?
15 Daeth anrheithiwr Moab a'i dinasoedd i fyny,a disgynnodd y gorau o'i hieuenctid i'r lladdfa,”medd y Brenin—ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
16 “Daeth dinistr Moab yn agos,ac y mae ei thrychineb yn prysuro'n gyflym.
17 Galarwch drosti, bawb sydd o'i hamgylch,bawb sy'n adnabod ei henw.Gofynnwch, ‘Pa fodd y torrwyd y ffon grefa'r wialen hardd?’