35 Gwnaf ddiwedd yn Moab,” medd yr ARGLWYDD, “ar y sawl sy'n offrymu mewn uchelfa, ac yn arogldarthu i'w dduwiau.
36 Am hynny bydd fy nghalon yn dolefain fel sain ffliwt dros Moab, ac yn dolefain fel sain ffliwt dros wŷr Cir-heres, oblegid darfu'r golud a gasglasant.
37 Bydd pob pen yn foel a phob barf wedi ei heillio, archollir pob llaw, a bydd sachliain am y llwynau.
38 Ar ben pob tŷ yn Moab, ac ym mhob heol, bydd galar, oherwydd drylliaf Moab fel llestr nad oes neb yn ei hoffi,” medd yr ARGLWYDD.
39 “Pa fodd y malwyd hi? Udwch! Pa fodd y troes Moab ei gwegil o gywilydd? Felly y bydd Moab yn gyff gwawd ac yn achos arswyd i bawb o'i hamgylch.”
40 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele, bydd un fel eryr yn ehedeg,ac yn lledu ei adenydd dros Moab;
41 gorchfygir y dinasoedd,ac enillir yr amddiffynfeydd,a bydd calon dewrion Moab, y diwrnod hwnnw,fel calon gwraig wrth esgor.