38 “Rhuant ynghyd fel llewod,a chwyrnu fel cenawon llew.
39 Paraf i'w llymeitian ddarfod mewn twymyn,meddwaf hwy nes y byddant yn chwil,ac yn syrthio i drymgwsg diderfyn, diddeffro,” medd yr ARGLWYDD.
40 “Dygaf hwy i waered, fel ŵyn i'r lladdfa,fel hyrddod neu fychod geifr.
41 “O fel y goresgynnwyd Babilonac yr enillwyd balchder yr holl ddaear!O fel yr aeth Babilon yn syndod i'r cenhedloedd!
42 Ymchwyddodd y môr yn erbyn Babilon,a'i gorchuddio â'i donnau terfysglyd.
43 Aeth ei dinasoedd yn ddiffaith,yn grastir ac anialdir,heb neb yn trigo ynddyntnac unrhyw un yn ymdaith trwyddynt.
44 Cosbaf Bel ym Mabilon,a thynnaf o'i safn yr hyn a lyncodd;ni ddylifa'r cenhedloedd ato ef mwyach,canys syrthiodd muriau Babilon.