41 “O fel y goresgynnwyd Babilonac yr enillwyd balchder yr holl ddaear!O fel yr aeth Babilon yn syndod i'r cenhedloedd!
42 Ymchwyddodd y môr yn erbyn Babilon,a'i gorchuddio â'i donnau terfysglyd.
43 Aeth ei dinasoedd yn ddiffaith,yn grastir ac anialdir,heb neb yn trigo ynddyntnac unrhyw un yn ymdaith trwyddynt.
44 Cosbaf Bel ym Mabilon,a thynnaf o'i safn yr hyn a lyncodd;ni ddylifa'r cenhedloedd ato ef mwyach,canys syrthiodd muriau Babilon.
45 Ewch allan ohoni, fy mhobl;achubed pob un ei hunan rhag angerdd llid yr ARGLWYDD.
46 “Gochelwch rhag i'ch calon lwfrhau, a pheidiwch ag ofni rhag chwedlau a daenir drwy'r wlad. Clywir si un flwyddyn, a si drachefn y flwyddyn wedyn; ceir trais yn y wlad a llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.
47 Oherwydd y mae'r dyddiau'n dod y cosbaf ddelwau Babilon; bydd yr holl wlad yn waradwydd, a'i lladdedigion i gyd yn syrthio yn ei chanol.