47 Oherwydd y mae'r dyddiau'n dod y cosbaf ddelwau Babilon; bydd yr holl wlad yn waradwydd, a'i lladdedigion i gyd yn syrthio yn ei chanol.
48 Yna fe orfoledda'r nefoedd a'r ddaear, a phob peth sydd ynddynt, yn erbyn Babilon, oherwydd daw anrheithwyr o'r gogledd yn ei herbyn,” medd yr ARGLWYDD.
49 “Rhaid i Fabilon syrthio oherwydd lladdedigion Israel, fel y syrthiodd lladdedigion yr holl ddaear oherwydd Babilon.
50 Ewch heb oedi, chwi y rhai a ddihangodd rhag y cleddyf; cofiwch yr ARGLWYDD yn y pellteroedd, galwch Jerwsalem i gof.
51 ‘Gwaradwyddwyd ni,’ meddwch, ‘pan glywsom gerydd, gorchuddiwyd ein hwyneb â gwarth, canys daeth estroniaid i gynteddoedd sanctaidd tŷ'r ARGLWYDD.’
52 “Am hynny, dyma'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y cosbaf ei delwau ac y griddfana'r rhai clwyfedig trwy'r holl wlad.
53 Er i Fabilon ddyrchafu i'r nefoedd, a diogelu ei hamddiffynfa uchel, daw ati anrheithwyr oddi wrthyf fi,” medd yr ARGLWYDD.