51 ‘Gwaradwyddwyd ni,’ meddwch, ‘pan glywsom gerydd, gorchuddiwyd ein hwyneb â gwarth, canys daeth estroniaid i gynteddoedd sanctaidd tŷ'r ARGLWYDD.’
52 “Am hynny, dyma'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y cosbaf ei delwau ac y griddfana'r rhai clwyfedig trwy'r holl wlad.
53 Er i Fabilon ddyrchafu i'r nefoedd, a diogelu ei hamddiffynfa uchel, daw ati anrheithwyr oddi wrthyf fi,” medd yr ARGLWYDD.
54 “Clyw! Daw gwaedd o Fabilon, dinistr mawr o wlad y Caldeaid.
55 Oherwydd anrheithia'r ARGLWYDD Fabilon, a distewi ei sŵn mawr. Bydd ei thonnau'n rhuo fel dyfroedd yn dygyfor, a'i thwrf yn codi.
56 Oblegid daw anrheithiwr yn ei herbyn, yn erbyn Babilon; delir ei chedyrn, dryllir eu bwa, oherwydd bydd yr ARGLWYDD, Duw dial, yn talu iddynt yn llawn.
57 Meddwaf ei thywysogion a'i doethion, ei llywodraethwyr a'i swyddogion, a'i gwŷr cedyrn; cysgant hun ddiderfyn, ddiddeffro,” medd y Brenin—ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.