58 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Dryllir i'r llawr furiau llydan Babilon;llosgir ei phyrth uchel â thân;yn ofer y llafuriodd y bobloedd,a bydd ymdrech y cenhedloedd yn gorffen mewn tân.”
59 Dyma hanes gorchymyn y proffwyd Jeremeia i Seraia fab Nereia, fab Maaseia, pan aeth i Fabilon gyda Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad. Swyddog cyflenwi oedd Seraia.
60 Ysgrifennodd Jeremeia mewn llyfr yr holl aflwydd oedd i ddod ar Fabilon, yr holl eiriau hyn a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon.
61 A dywedodd Jeremeia wrth Seraia, “Pan ddoi i Fabilon, edrych ar hwn, a darllen yr holl eiriau hyn,
62 ac yna dywed, ‘O ARGLWYDD, lleferaist yn erbyn y lle hwn i'w ddinistrio, fel na byddai ynddo na dyn nac anifail yn byw, ond iddo fod yn anghyfannedd tragwyddol.’
63 Pan orffenni ddarllen y llyfr, rhwyma garreg wrtho a'i fwrw i ganol afon Ewffrates,
64 a dywed, ‘Fel hyn y suddir Babilon; ni fydd yn codi mwyach wedi'r dinistr a ddygaf arni; a diffygiant.’ ” Dyma ddiwedd geiriau Jeremeia.