3 Bydd angau yn well nag einioes gan yr holl weddill a adewir o'r teulu drwg hwn ym mhob man y gyrrais hwy iddo,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
4 “Dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“ ‘Os cwympant, oni chyfodant? Os try un ymaith, oni ddychwel?
5 Pam, ynteu, y trodd y bobl hyn ymaith,ac y parhaodd Jerwsalem i encilio?Glynasant wrth dwyll, gan wrthod dychwelyd.
6 Cymerais sylw a gwrandewais, ond ni lefarodd neb yn uniawn;nid edifarhaodd neb am ei ddrygioni a dweud, “Beth a wneuthum?”Y mae pob un yn troi yn ei redfa, fel march cyn rhuthro i'r frwydr.
7 Y mae'r crëyr yn yr awyr yn adnabod ei dymor;y durtur a'r wennol a'r fronfraith yn cadw amser eu dyfod;ond nid yw fy mhobl yn gwybod trefn yr ARGLWYDD.
8 Sut y dywedwch, “Yr ydym yn ddoeth, y mae cyfraith yr ARGLWYDD gyda ni”?Yn sicr, gwnaeth ysgrifbin celwyddog yr ysgrifennydd gelwydd ohoni.
9 Cywilyddiwyd y doeth, fe'u dychrynwyd ac fe'u daliwyd.Dyma hwy wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD;pa ddoethineb sydd ganddynt felly?