Diarhebion 1 BCN

Gwerth Diarhebion

1 Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel—

2 i gael doethineb ac addysg,i ddeall geiriau deallus,

3 i dderbyn addysg fuddiol,cyfiawnder, barn, ac uniondeb,

4 i roi craffter i'r gwirion,a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc.

5 Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg,a'r deallus yn ennill medrusrwydd,

6 i ddeall dameg a'i dehongliad,dywediadau'r doeth a'u posau.

Cyngor i'r Ifanc

7 Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth,ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.

8 Fy mab, gwrando ar addysg dy dad,paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam;

9 bydd yn dorch brydferth ar dy ben,ac yn gadwyn am dy wddf.

10 Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid,paid â chytuno â hwy.

11 Fe ddywedant, “Tyrd gyda ni,inni gynllwynio i dywallt gwaed,a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed;

12 fel Sheol, llyncwn hwy'n fywac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll;

13 fe gymerwn bob math ar gyfoeth,a llenwi ein tai ag ysbail;

14 bwrw dy goelbren gyda ni,a bydd un pwrs rhyngom i gyd.”

15 Fy mab, paid â mynd yr un ffordd â hwy;cadw dy droed oddi ar eu llwybr.

16 Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg,ac yn prysuro i dywallt gwaed.

17 Yn sicr, ofer yw gosod rhwydyng ngolwg unrhyw aderyn hedegog.

18 Am eu gwaed eu hunain y maent yn cynllwynio,ac yn llechu yn eu herbyn eu hunain.

19 Dyma dynged pob un awchus am elw;y mae'n cymryd einioes y sawl a'i piau.

Doethineb yn Galw

20 Y mae doethineb yn galw'n uchel yn y stryd,yn codi ei llais yn y sgwâr,

21 yn gweiddi ar ben y muriau,yn traethu ei geiriau ym mynedfa pyrth y ddinas.

22 Chwi'r rhai gwirion, pa hyd y bodlonwch ar fod yn wirion,ac yr ymhyfryda'r gwatwarwyr mewn gwatwar,ac y casâ ffyliaid wybodaeth?

23 Os newidiwch eich ffyrdd dan fy ngherydd,tywalltaf fy ysbryd arnoch,a gwneud i chwi ddeall fy ngeiriau.

24 Ond am i mi alw, a chwithau heb ymateb,ac imi estyn fy llaw, heb neb yn gwrando;

25 am i chwi ddiystyru fy holl gyngor,a gwrthod fy ngherydd—

26 am hynny, chwarddaf ar eich dinistr,a gwawdio pan ddaw dychryn arnoch,

27 pan ddaw dychryn arnoch fel corwynt,a dinistr yn taro fel storm,pan ddaw adfyd a gwasgfa arnoch.

28 Yna galwant arnaf, ond nid atebaf;fe'm ceisiant yn ddyfal, ond heb fy nghael.

29 Oherwydd iddynt gasáu gwybodaeth,a throi oddi wrth ofn yr ARGLWYDD,

30 a gwrthod fy nghyngor,ac anwybyddu fy holl gerydd,

31 cânt fwyta o ffrwyth eu ffyrdd,a syrffedu ar eu cynlluniau.

32 Oherwydd bydd anufudd-dod y gwirion yn eu lladd,a difrawder y ffyliaid yn eu difa.

33 Ond bydd yr un a wrendy arnaf yn byw'n ddiogel,yn dawel heb ofni drwg.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31