Diarhebion 20 BCN

1 Gwatwarwr yw gwin, a therfysgwr yw diod gadarn;nid doeth mo'r sawl sydd dan eu dylanwad.

2 Y mae bygythiad brenin fel rhuad llew ifanc;y mae'r sawl a'i cynhyrfa'n peryglu ei fywyd.

3 Clod i bob un yw gwrthod cweryla,ond rhuthro i ymryson a wna pob ynfytyn.

4 Nid yw'r diog yn aredig yn yr hydref;eto y mae'n disgwyl yn amser cynhaeaf, heb ddim i'w gael.

5 Y mae cyngor yn y meddwl fel dyfroedd dyfnion,ond gall dyn deallus ei dynnu allan.

6 Y mae llawer un yn honni bod yn deyrngar,ond pwy a all gael dyn ffyddlon?

7 Y mae'r cyfiawn yn rhodio'n gywir;gwyn eu byd ei blant ar ei ôl!

8 Y mae brenin sy'n eistedd ar orsedd barnyn gallu nithio pob drwg â'i lygaid.

9 Pwy a all ddweud, “Yr wyf wedi puro fy meddwl;yr wyf yn lân o'm pechod”?

10 Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau,y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.

11 Trwy ei weithredoedd y dengys yr ifanca yw ei waith yn bur ac yn uniawn.

12 Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld,yr ARGLWYDD a'u gwnaeth ill dau.

13 Paid â bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd;cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd.

14 “Gwael iawn,” meddai'r prynwr;ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen.

15 Y mae digonedd o aur ac o emau,ond geiriau deallus yw'r trysor gwerthfawrocaf.

16 Cymer wisg y sawl sy'n mechnïo dros estron,a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.

17 Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll,ond yn y diwedd llenwir ei geg â graean.

18 Sicrheir cynlluniau trwy gyngor;rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel.

19 Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach;paid â chyfeillachu â'r llac ei dafod.

20 Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam,diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew.

21 Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau,ni bydd bendith ar ei diwedd.

22 Paid â dweud, “Talaf y pwyth yn ôl”;disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam.

23 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau,ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus.

24 Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl;sut y gall neb ddeall ei ffordd?

25 Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll,ac yna dechrau ystyried ar ôl gwneud addunedau.

26 Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus,ac yn troi'r rhod yn eu herbyn.

27 Llewyrcha'r ARGLWYDD ar ysbryd pobl,i chwilio i ddyfnderau eu bod.

28 Y mae teyrngarwch a chywirdeb yn gwarchod y brenin,a diogelir ei orsedd gan deyrngarwch.

29 Gogoniant yr ifainc yw eu nerth,ac addurn i'r hen yw penwynni.

30 Y mae taro i'r byw yn gwella drwg,a dyrnodiau yn iacháu rhywun drwyddo.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31