Diarhebion 26 BCN

1 Fel eira yn yr haf, neu law yn ystod y cynhaeaf,felly nid yw anrhydedd yn gweddu i'r ffôl.

2 Fel aderyn y to yn hedfan, neu wennol yn gwibio,felly ni chyflawnir melltith ddiachos.

3 Chwip i geffyl, ffrwyn i asyn,a gwialen i gefn ffyliaid!

4 Paid ag ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,rhag i ti fynd yn debyg iddo.

5 Ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,rhag iddo fynd yn ddoeth yn ei olwg ei hun.

6 Y mae'r sawl sy'n anfon neges yn llaw ffŵlyn torri ymaith ei draed ei hun ac yn profi trais.

7 Fel coesau'r cloff yn honcian,felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.

8 Fel gosod carreg mewn ffon dafl,felly y mae rhoi anrhydedd i ffŵl.

9 Fel draenen yn mynd i law meddwyn,felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.

10 Fel saethwr yn clwyfo pawb sy'n mynd heibio,felly y mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwyn.

11 Fel ci yn troi'n ôl at ei gyfog,felly y mae'r ffŵl sy'n ailadrodd ei ffolineb.

12 Fe welaist un sy'n ddoeth yn ei olwg ei hun;y mae mwy o obaith i ffŵl nag iddo ef.

13 Dywed y diog, “Y mae llew ar y ffordd,llew yn rhydd yn y strydoedd!”

14 Fel y mae drws yn troi ar ei golyn,felly y mae'r diog yn ei wely.

15 Y mae'r diog yn gwthio'i law i'r ddysgl,ond yn rhy ddiog i'w chodi i'w geg.

16 Y mae'r diog yn ddoethach yn ei olwg ei hunna saith o rai sy'n ateb yn synhwyrol.

17 Fel cydio yng nghlustiau ci sy'n mynd heibio,felly y mae ymyrryd yng nghweryl rhywun arall.

18 Fel rhywun gwallgof yn saethupentewynion â saethau marwol,

19 felly y mae'r un sy'n twyllo'i gymydog,ac yn dweud, “Dim ond cellwair yr oeddwn.”

20 Heb goed fe ddiffydd tân,a heb y straegar fe dderfydd am gynnen.

21 Fel glo i farwor, a choed i dân,felly y mae'r cwerylgar yn creu cynnen.

22 Y mae geiriau'r straegar fel danteithionsy'n mynd i lawr i'r cylla.

23 Fel golchiad arian ar lestr pridd,felly y mae geiriau esmwyth a chalon ddrygionus.

24 Y mae gelyn yn rhagrithio â'i eiriau,ac yn cynllunio twyll yn ei galon;

25 pan yw'n llefaru'n deg, paid ag ymddiried ynddo,oherwydd y mae saith peth ffiaidd yn ei feddwl;

26 er iddo guddio'i gasineb â rhagrith,datguddir ei ddrygioni yn y gynulleidfa.

27 Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo,a daw carreg yn ôl ar yr un sy'n ei threiglo.

28 Y mae tafod celwyddog yn casáu purdeb,a genau gwenieithus yn dwyn dinistr.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31