Diarhebion 21 BCN

1 Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddŵr;fe'i try i ble bynnag y dymuna.

2 Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun,ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon.

3 Y mae gwneud cyfiawnder a barnyn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth.

4 Llygaid balch a chalon ymffrostgar,dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod.

5 Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd,ond daw angen ar bob un sydd mewn brys.

6 Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwyddfel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth.

7 Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais,am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn.

8 Troellog yw ffordd y troseddwr,ond uniawn yw gweithred y didwyll.

9 Gwell yw byw mewn congl ar ben tŷna rhannu cartref gyda gwraig gecrus.

10 Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg;nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog.

11 Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth;ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall.

12 Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar dŷ'r drygionus;y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr.

13 Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd,ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw.

14 Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a childwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr.

15 Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder,ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg.

16 Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deallyn gorffwys yng nghwmni'r meirw.

17 Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser,ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog.

18 Y mae'r drygionus yn bridwerth dros y cyfiawn,a'r twyllwr dros y rhai uniawn.

19 Gwell byw mewn anialwchna chyda gwraig gecrus a dicllon.

20 Yn nhŷ'r doeth y mae trysor dymunol ac olew,ond y mae'r ffôl yn eu difa.

21 Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwchyn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.

22 Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarna bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi.

23 Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod,fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau.

24 Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw,gweithreda yn gwbl drahaus.

25 Y mae blys y diog yn ei ladd,am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio.

26 Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser,ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed.

27 Ffiaidd yw aberth y drygionus,yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell.

28 Difethir y tyst celwyddog,ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru.

29 Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb,ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd.

30 Nid yw doethineb na deall na chyngoryn ddim o flaen yr ARGLWYDD.

31 Er paratoi march ar gyfer dydd brwydr,eto eiddo'r ARGLWYDD yw'r fuddugoliaeth.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31