1 Fy mab, os derbynni fy ngeiriau,a thrysori fy ngorchmynion,
2 a gwrando'n astud ar ddoethineb,a rhoi dy feddwl ar ddeall;
3 os gelwi am ddeall,a chodi dy lais am wybodaeth,
4 a chwilio amdani fel am arian,a chloddio amdani fel am drysor—
5 yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD,a chael gwybodaeth o Dduw.
6 Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb,ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall.
7 Y mae'n trysori craffter i'r uniawn;y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir.
8 Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder,ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid.
9 Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn,ac uniondeb a phob ffordd dda;
10 oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl,a deall yn rhoi pleser iti.
11 Bydd pwyll yn dy amddiffyn,a deall yn dy warchod,
12 ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni,a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus—
13 y rhai sy'n gadael y ffordd iawni rodio yn llwybrau tywyllwch,
14 sy'n cael pleser mewn gwneud drwga mwynhad mewn twyll,
15 y rhai y mae eu ffordd yn gama'u llwybrau'n droellog.
16 Fe'th geidw oddi wrth y wraig ddieithr,a rhag y ddynes estron a'i geiriau dengar,
17 sydd wedi gadael cymar ei hieuenctid,ac wedi anghofio cyfamod ei Duw.
18 Oherwydd y mae ei thŷ yn gwyro at angau,a'i llwybrau at y cysgodion.
19 Ni ddaw neb sy'n mynd ati yn ei ôl,ac ni chaiff ailafael ar lwybrau bywyd.
20 Felly gofala di rodio yn ffyrdd y da,a chadw at lwybrau'r cyfiawn.
21 Oherwydd y rhai cyfiawn a drig yn y tir,a'r rhai cywir a gaiff aros ynddo;
22 ond torrir y rhai drwg o'r tir,a diwreiddir y twyllwyr ohono.