Diarhebion 11 BCN

1 Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,ond pwysau cywir wrth ei fodd.

2 Yn dilyn balchder fe ddaw amarch,ond gyda'r rhai gwylaidd y mae doethineb.

3 Y mae eu gonestrwydd yn arwain yr uniawn,ond eu gwyrni eu hunain yn difa'r twyllwyr.

4 Nid oes gwerth mewn cyfoeth yn nydd dicter,ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag angau.

5 Y mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union,ond cwympa'r drygionus trwy ei ddrygioni.

6 Y mae eu cyfiawnder yn gwaredu'r uniawn,ond eu trachwant yn fagl i'r twyllwyr.

7 Pan fydd farw'r drygionus, derfydd gobaith,a daw terfyn ar hyder mewn cyfoeth.

8 Gwaredir y cyfiawn rhag adfyd,ond fe â'r drygionus dros ei ben iddo.

9 Y mae'r annuwiol yn dinistrio'i gymydog â'i eiriau,ond gwaredir y cyfiawn trwy ddeall.

10 Ymhyfryda dinas yn llwyddiant y cyfiawn,a cheir gorfoledd pan ddinistrir y drygionus.

11 Dyrchefir dinas gan fendith yr uniawn,ond dinistrir hi trwy eiriau'r drygionus.

12 Y mae'r disynnwyr yn dilorni ei gymydog,ond cadw'n dawel a wna'r deallus.

13 Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach,ond y mae'r teyrngar yn ei chadw.

14 Heb ei chyfarwyddo, methu a wna cenedl,ond y mae diogelwch mewn llawer o gynghorwyr.

15 Daw helbul o fynd yn feichiau dros ddieithryn,ond y mae'r un sy'n casáu mechnïaeth yn ddiogel.

16 Y mae gwraig raslon yn cael clod,ond pobl ddidostur sy'n ennill cyfoeth.

17 Dwyn elw iddo'i hun y mae'r trugarog,ond ei niweidio'i hun y mae'r creulon.

18 Gwneud elw twyllodrus y mae'r drygionus,ond caiff yr un sy'n hau cyfiawnder gyflog teg.

19 I'r un sy'n glynu wrth gyfiawnder daw bywyd,ond i'r sawl sy'n dilyn drygioni marwolaeth.

20 Y mae'r rhai gwrthnysig yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,ond y mae'r rhai cywir wrth ei fodd.

21 Y mae'n sicr na chaiff un drwg osgoi cosb,ond caiff plant y cyfiawn fynd yn rhydd.

22 Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch,felly y mae gwraig brydferth heb synnwyr.

23 Dymuno'r hyn sydd dda a wna'r cyfiawn,ond diflanna gobaith y drygionus.

24 Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth,ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen.

25 Llwydda'r un a wasgar fendithion,a diwellir yr un a ddiwalla eraill.

26 Y mae pobl yn melltithio'r un sy'n cronni ŷd,ond yn bendithio'r sawl sy'n ei werthu.

27 Y mae'r un sy'n ceisio daioni yn ennill ffafr,ond syrth drygioni ar y sawl sy'n ei ddilyn.

28 Cwympa'r un sy'n ymddiried yn ei gyfoeth,ond ffynna'r cyfiawn fel deilen werdd.

29 Y mae'r un sy'n peri helbul i'w deulu'n etifeddu'r gwynt,a bydd y ffôl yn was i'r doeth.

30 Ffrwyth cyfiawnder yw pren y bywyd,ond y mae trais yn difa bywydau.

31 Os caiff y cyfiawn ei dalu ar y ddaear,pa faint mwy y drygionus a'r pechadur?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31