Diarhebion 6 BCN

Rhybuddion Pellach

1 Fy mab, os rhoddaist wystl i'th gymydog,neu fynd yn feichiau i ddieithryn,

2 a chael dy rwymo gan dy eiriau dy hun,a'th ddal gan eiriau dy enau,

3 yna gweithreda fel hyn, fy mab, ac achub dy hun:gan dy fod yn llaw dy gymydog,dos ar frys ac ymbil â'th gymydog;

4 paid â rhoi cwsg i'th lygaidna gorffwys i'th amrannau;

5 achub dy hun fel ewig o afael yr heliwr,neu aderyn o law yr adarwr.

6 Ti ddiogyn, dos at y morgrugyn,a sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth.

7 Er nad oes ganddo arweinyddna rheolwr na llywodraethwr,

8 y mae'n darparu ei gynhaliaeth yn yr haf,yn casglu ei fwyd amser cynhaeaf.

9 O ddiogyn, am ba hyd y byddi'n gorweddian?Pa bryd y codi o'th gwsg?

10 Ychydig gwsg, ychydig hepian,ychydig blethu dwylo i orffwys,

11 a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon,ac angen fel gŵr arfog.

12 Un dieflig, un drwg,sy'n taenu geiriau dichellgar,

13 yn wincio â'i lygad, yn pwnio â'i droed,ac yn gwneud arwyddion â'i fysedd.

14 Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad,a chreu cynnen.

15 Am hynny daw dinistr arno yn ddisymwth;fe'i dryllir yn sydyn heb fodd i'w arbed.

16 Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD,saith peth sy'n ffiaidd ganddo:

17 llygaid balch, tafod ffals,dwylo'n tywallt gwaed dieuog,

18 calon yn cynllunio oferedd,traed yn prysuro i wneud drwg,

19 gau dyst yn dweud celwydd,ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau.

Rhybudd rhag Godineb

20 Fy mab, cadw orchymyn dy dad;paid ag anwybyddu cyfarwyddyd dy fam;

21 clyma hwy'n wastad yn dy galon,rhwym hwy am dy wddf.

22 Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei,a gwylio drosot pan orffwysi,ac ymddiddan â thi pan gyfodi.

23 Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni,a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd,

24 ac yn dy gadw rhag gwraig cymydoga rhag gweniaith y ddynes estron.

25 Paid â chwennych ei phrydferthwch,a phaid â gadael i'w chiledrychiad dy ddal;

26 oherwydd gellir cael putain am bris torth,ond y mae gwraig rhywun arall yn chwilio am fywyd brasach.

27 A all dyn gofleidio tân yn ei fynwesheb losgi ei ddillad?

28 A all dyn gerdded ar farworheb losgi ei draed?

29 Felly y bydd yr un sy'n mynd at wraig ei gymydog;ni all unrhyw un gyffwrdd â hi heb gosb.

30 Oni ddirmygir lleidr pan fo'n dwyni foddhau ei chwant, er ei fod yn newynog?

31 Pan ddelir ef, rhaid iddo dalu'n ôl seithwaith,a rhoi'r cyfan sydd ganddo.

32 Felly, y mae'r godinebwr yn un disynnwyr,ac yn ei ddifetha'i hun wrth wneud hynny;

33 caiff niwed ac amarch,ac ni ddilëir ei warth.

34 Oherwydd y mae eiddigedd yn cynddeiriogi gŵr priod,ac nid yw'n arbed pan ddaw cyfle i ddial;

35 ni fyn dderbyn iawndal,ac nis bodlonir, er cymaint a roddi.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31