Diarhebion 31 BCN

Cyngor i Frenin

1 Geiriau Lemuel brenin Massa, y rhai a ddysgodd ei fam iddo:

2 Beth yw hyn, fy mab, mab fy nghroth?Beth yw hyn, mab fy addunedau?

3 Paid â threulio dy nerth gyda merched,na'th fywyd gyda'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.

4 Nid gweddus i frenhinoedd, O Lemuel,nid gweddus i frenhinoedd yfed gwin,ac nid gweddus i reolwyr flysio diod gadarn,

5 rhag iddynt yfed, ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd,a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd.

6 Rhowch ddiod gadarn i'r un sydd ar ddarfod,a gwin i'r chwerw ei ysbryd;

7 cânt hwy yfed ac anghofio'u tlodi,a pheidio â chofio'u gofid byth mwy.

8 Dadlau o blaid y mud,a thros achos yr holl rai diobaith.

9 Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn;cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd.

Y Wraig Fedrus

10 Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus?Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.

11 Y mae calon ei gŵr yn ymddiried ynddi,ac ni fydd pall ar ei henillion.

12 Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled,a hynny ar hyd ei hoes.

13 Y mae'n ceisio gwlân a llin,ac yn cael pleser o weithio â'i dwylo.

14 Y mae, fel llongau masnachwr,yn dwyn ei hymborth o bell.

15 Y mae'n codi cyn iddi ddyddio,yn darparu bwyd i'w thylwyth,ac yn trefnu gorchwylion ei morynion.

16 Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes,ac yn plannu gwinllan â'i henillion.

17 Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth,ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau.

18 Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol,ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos.

19 Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail,a'i dwylo'n gafael yn y werthyd.

20 Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus,a'i dwylo i'r tlawd.

21 Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira,oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd.

22 Y mae'n gwneud cwrlidau iddi ei hun,ac y mae ei gwisg o liain main a phorffor.

23 Y mae ei gŵr yn adnabyddus yn y pyrth,pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal.

24 Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu,ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr.

25 Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd,ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin.

26 Y mae'n siarad yn ddoeth,a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod.

27 Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu,ac nid yw'n bwyta bara segurdod.

28 Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio;a bydd ei gŵr yn ei chanmol:

29 “Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus,ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd.”

30 Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod,ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol.

31 Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo,a bydded i'w gwaith ei chanmol yn y pyrth.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31