Diarhebion 25 BCN

Rhagor o Ddiarhebion Solomon

1 Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, a gofnodwyd gan wŷr Heseceia brenin Jwda:

2 Gogoniant Duw yw cadw pethau'n guddiedig,a gogoniant brenhinoedd yw eu chwilio allan.

3 Fel y mae'r nefoedd yn uchel a'r ddaear yn ddwfn,felly ni ellir chwilio calonnau brenhinoedd.

4 Symud yr amhuredd o'r arian,a daw'n llestr yn llaw'r gof.

5 Symud y drygionus o ŵydd y brenin,a sefydlir ei orsedd mewn cyfiawnder.

6 Paid ag ymddyrchafu yng ngŵydd y brenin,na sefyll yn lle'r mawrion,

7 oherwydd gwell yw cael dweud wrthyt am symud i fyny,na'th symud i lawr i wneud lle i bendefig.

8 Paid â brysio i wneud achos o'r hyn a welaist,rhag, wedi iti orffen gwneud hynny,i'th gymydog ddwyn gwarth arnat.

9 Dadlau dy achos â'th gymydog,ond paid â dadlennu cyfrinach rhywun arall,

10 rhag iddo dy sarhau pan glyw,a thithau'n methu galw dy annoethineb yn ôl.

11 Fel afalau aur ar addurniadau o arian,felly y mae gair a leferir yn ei bryd.

12 Fel modrwy aur neu addurn o aur gwerthfawr,felly y mae cerydd y doeth i glust sy'n gwrando.

13 Fel oerni eira yn amser cynhaeaf,felly y mae negesydd ffyddlon i'r rhai sy'n ei anfon;y mae'n adfywio ysbryd ei feistri.

14 Fel cymylau a gwynt, na roddant law,felly y mae'r un sy'n brolio rhodd heb ei rhoi.

15 Ag amynedd gellir darbwyllo llywodraethwr,a gall tafod tyner dorri asgwrn.

16 Os cei fêl, bwyta'r hyn y mae ei angen arnat,rhag iti gymryd gormod, a'i daflu i fyny.

17 Paid â mynd yn rhy aml i dŷ dy gymydog,rhag iddo gael digon arnat, a'th gasáu.

18 Fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth loyw,felly y mae tyst yn dweud celwydd yn erbyn ei gymydog.

19 Fel dant drwg, neu droed yn llithro,felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd.

20 Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer,neu roi finegr ar friw,felly y mae canu caneuon i galon drist.

21 Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta,ac os yw'n sychedig, rho iddo ddŵr i'w yfed;

22 byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben,ac fe dâl yr ARGLWYDD iti.

23 Y mae gwynt y gogledd yn dod â glaw,a thafod enllibus yn dod â chilwg.

24 Y mae'n well byw mewn congl ar ben tŷna rhannu cartref gyda gwraig gecrus.

25 Fel dŵr oer i lwnc sychedig,felly y mae newydd da o wlad bell.

26 Fel ffynnon wedi ei difwyno, neu bydew wedi ei lygru,felly y mae'r cyfiawn yn gwegian o flaen y drygionus.

27 Nid yw'n dda bwyta gormod o fêl,a rhaid wrth ofal gyda chanmoliaeth.

28 Fel dinas wedi ei bylchu a heb fur,felly y mae'r sawl sy'n methu rheoli ei dymer.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31