Diarhebion 4 BCN

Doniau Doethineb

1 Gwrandewch, blant, ar gyfarwyddyd tad,ac ystyriwch i chwi ddysgu deall.

2 Oherwydd yr wyf yn rhoi i chwi hyfforddiant da;peidiwch â gwrthod fy nysgeidiaeth.

3 Bûm innau hefyd yn fab i'm tad,yn annwyl, ac yn unig blentyn fy mam.

4 Dysgodd yntau fi, a dweud wrthyf,“Gosod dy feddwl ar fy ngeiriau;cadw fy ngorchmynion iti gael byw.

5 Paid ag anghofio na chilio oddi wrth fy ngeiriau.Cais ddoethineb, cais ddeall;

6 paid â'i gadael, a bydd hithau'n dy gadw;câr hi, a bydd yn d'amddiffyn.

7 Doethineb yw'r pennaf peth; cais ddoethineb;â'r cyfan sydd gennyt, cais ddeall.

8 Meddwl yn uchel ohoni, ac fe'th ddyrchefir ganddi;fe'th anrhydedda, os cofleidi hi.

9 Gesyd dorch brydferth ar dy ben,a rhoi coron anrhydedd iti.”

10 Fy mab, gwrando, a dal ar fy ngeiriau,ac fe ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.

11 Hyfforddais di yn ffordd doethineb;dysgais iti gerdded llwybrau union.

12 Pan gerddi, ni rwystrir dy gam,a phan redi, ni fyddi'n baglu.

13 Glŷn wrth addysg, a hynny'n ddiollwng;dal d'afael ynddi, oherwydd hi yw dy fywyd.

14 Paid â dilyn llwybr y drygionus,na cherdded ffordd pobl ddrwg;

15 gochel hi, paid â'i throedio,tro oddi wrthi a dos yn dy flaen.

16 Oherwydd ni allant hwy gysgu os na fyddant wedi gwneud drwg;collant gwsg os na fyddant wedi baglu rhywun.

17 Y maent yn bwyta bara a gafwyd trwy dwyll,ac yn yfed gwin gormes.

18 Y mae llwybr y cyfiawn fel golau'r wawr,sy'n cynyddu yn ei lewyrch hyd ganol dydd.

19 Ond y mae ffordd y drygionus fel tywyllwch dudew;ni wyddant beth sy'n eu baglu.

20 Fy mab, rho sylw i'm geiriau,a gwrando ar fy ymadrodd.

21 Paid â'u gollwng o'th olwg;cadw hwy yn dy feddwl;

22 oherwydd y maent yn fywyd i'r un sy'n eu cael,ac yn iechyd i'w holl gorff.

23 Yn fwy na dim, edrych ar ôl dy feddwl,oherwydd oddi yno y tardd bywyd.

24 Gofala osgoi geiriau twyllodrus,a chadw draw oddi wrth siarad dichellgar.

25 Cadw dy lygaid yn unionsyth,ac edrych yn syth o'th flaen.

26 Rho sylw i lwybr dy droed,i'th holl ffyrdd fod yn ddiogel.

27 Paid â throi i'r dde nac i'r chwith,a chadw dy droed rhag y drwg.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31