Diarhebion 12 BCN

1 Y mae'r sawl sy'n caru disgyblaeth yn caru gwybodaeth,ond hurtyn sy'n casáu cerydd.

2 Y mae'r daionus yn ennill ffafr yr ARGLWYDD,ond condemnir y dichellgar.

3 Ni ddiogelir neb trwy ddrygioni,ac ni ddiwreiddir y cyfiawn.

4 Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gŵr,ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn.

5 Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir,ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus.

6 Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus,ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu.

7 Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt,ond saif tŷ'r cyfiawn yn gadarn.

8 Canmolir rhywun ar sail ei ddeall,ond gwawdir y meddwl troëdig.

9 Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid,na bod yn ymffrostgar a heb fwyd.

10 Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail,ond y mae'r drygionus yn ddidostur.

11 Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr.

12 Blysia'r drygionus am ysbail drygioni,ond y mae gwreiddyn y cyfiawn yn sicr.

13 Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau,ond dianc y cyfiawn rhag adfyd.

14 Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un â daioni,a thelir iddo yn ôl yr hyn a wnaeth.

15 Y mae ffordd y ffôl yn iawn yn ei olwg,ond gwrendy'r doeth ar gyngor.

16 Buan y dengys y ffôl ei fod wedi ei gythruddo,ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad.

17 Y mae tyst gonest yn dweud y gwir,ond celwydd a draetha'r gau dyst.

18 Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf,ond y mae tafod y doeth yn iacháu.

19 Erys geiriau gwir am byth,ond ymadrodd celwyddog am eiliad.

20 Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg,ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch.

21 Ni ddaw unrhyw niwed i'r cyfiawn,ond bydd y drygionus yn llawn helbul.

22 Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,ond y mae'r rhai sy'n gweithredu'n gywir wrth ei fodd.

23 Y mae'r call yn cuddio'i wybodaeth,ond ffyliaid yn cyhoeddi eu ffolineb.

24 Yn llaw y rhai diwyd y mae'r awdurdod,ond y mae diogi yn arwain i gaethiwed.

25 Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun,ond llawenheir ef gan air caredig.

26 Y mae'r cyfiawn yn cilio oddi wrth ddrwg,ond y mae ffordd y drygionus yn eu camarwain.

27 Ni fydd y diogyn yn rhostio'i helfa,ond gan y diwyd bydd golud mawr.

28 Ar ffordd cyfiawnder y mae bywyd,ac nid oes marwolaeth yn ei llwybrau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31