Diarhebion 15 BCN

1 Y mae ateb llednais yn dofi dig,ond gair garw yn cynnau llid.

2 Y mae tafod y doeth yn clodfori deall,ond genau ffyliaid yn parablu ffolineb.

3 Y mae llygaid yr ARGLWYDD ym mhob man,yn gwylio'r drwg a'r da.

4 Y mae tafod tyner yn bren bywiol,ond tafod garw yn dryllio'r ysbryd.

5 Diystyra'r ffôl ddisgyblaeth ei dad,ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd.

6 Y mae llawer o gyfoeth yn nhŷ'r cyfiawn,ond trallod sydd yn enillion y drygionus.

7 Gwasgaru gwybodaeth y mae genau'r doeth,ond nid felly feddwl y ffyliaid.

8 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw aberth y drygionus,ond y mae gweddi'r uniawn wrth ei fodd.

9 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw ffordd y drygionus,ond y mae'n caru'r rhai sy'n dilyn cyfiawnder.

10 Bydd disgyblaeth lem ar yr un sy'n gadael y ffordd,a bydd y sawl sy'n casáu cerydd yn trengi.

11 Y mae Sheol ac Abadon dan lygad yr ARGLWYDD;pa faint mwy feddyliau pobl?

12 Nid yw'r gwatwarwr yn hoffi cerydd;nid yw'n cyfeillachu â'r doethion.

13 Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb,ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl.

14 Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth,ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb.

15 I'r cystuddiol, y mae pob diwrnod yn flinderus,ond y mae calon hapus yn wledd wastadol.

16 Gwell ychydig gydag ofn yr ARGLWYDDna chyfoeth mawr a thrallod gydag ef.

17 Gwell yw pryd o lysiau lle mae cariad,nag ych pasgedig a chasineb gydag ef.

18 Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen,ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl.

19 Y mae ffordd y diog fel llwyn mieri,ond llwybr yr uniawn fel priffordd wastad.

20 Rhydd mab doeth lawenydd i'w dad,ond y mae'r ffôl yn dilorni ei fam.

21 Y mae ffolineb yn ddifyrrwch i'r disynnwyr,ond y mae'r deallus yn cadw ffordd union.

22 Drysir cynlluniau pan nad oes ymgynghori,ond daw llwyddiant pan geir llawer o gynghorwyr.

23 Caiff rhywun foddhad pan fydd ganddo ateb,a beth sy'n well na gair yn ei bryd?

24 Y mae ffordd y bywyd yn dyrchafu'r deallus,i'w droi oddi wrth Sheol isod.

25 Y mae'r ARGLWYDD yn dymchwel tŷ'r balch,ond yn diogelu terfynau'r weddw.

26 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw bwriadau drwg,ond y mae geiriau pur yn hyfrydwch iddo.

27 Y mae'r un sy'n awchu am elw yn creu anghydfod yn ei dŷ,ond y sawl sy'n casáu cildwrn yn cael bywyd.

28 Y mae'r cyfiawn yn ystyried cyn rhoi ateb,ond y mae genau'r drygionus yn parablu drwg.

29 Pell yw'r ARGLWYDD oddi wrth y drygionus,ond gwrendy ar weddi'r cyfiawn.

30 Y mae llygaid sy'n gloywi yn llawenhau'r galon,a newydd da yn adfywio'r corff.

31 Y mae'r glust sy'n gwrando ar wersi bywydyn aros yng nghwmni'r doeth.

32 Y mae'r un sy'n gwrthod disgyblaeth yn ei gasáu ei hun,ond y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn berchen deall.

33 Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ddisgyblaeth mewn doethineb,a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31