Diarhebion 28 BCN

1 Y mae'r drygionus yn ffoi heb i neb ei erlid,ond fe saif y cyfiawn yn gadarn fel llew.

2 Pan fydd gwlad mewn gwrthryfel bydd nifer o arweinwyr,ond trwy bobl synhwyrol a deallus y sefydlir trefn.

3 Y mae un tlawd yn gorthrymu tlodion,fel glaw yn curo cnwd heb adael cynnyrch.

4 Y mae'r rhai sy'n cefnu ar y gyfraith yn canmol y drygionus,ond y mae'r rhai sy'n cadw'r gyfraith yn ymladd yn eu herbyn.

5 Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder,ond y mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn deall y cyfan.

6 Y mae'n well bod yn dlawd, a rhodio'n gywir,na bod yn gyfoethog ac yn droellog ei ffyrdd.

7 Y mae plentyn deallus yn cadw'r gyfraith,ond y mae'r un sy'n cyfeillachu â'r glwth yn dwyn anfri ar ei rieni.

8 Y mae'r un sy'n cynyddu ei gyfoeth trwy log ac usuriaethyn ei gasglu i'r un sy'n garedig wrth y tlawd.

9 Pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y gyfraith,bydd ei weddi ef yn ffieidd-dra.

10 Bydd yr un sy'n camarwain yr uniawn i ffordd ddrwgyn syrthio ei hun i'r pwll a wnaeth;ond caiff y cywir etifeddiaeth dda.

11 Y mae'r cyfoethog yn ddoeth yn ei olwg ei hun,ond y mae'r tlawd deallus yn gweld trwyddo.

12 Pan yw'r cyfiawn yn llywodraethu, ceir urddas mawr;ond pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio.

13 Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau,ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd.

14 Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD yn wastad;ond y mae'r un sy'n caledu ei galon yn disgyn i ddinistr.

15 Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro,felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd.

16 Y mae llywodraethwr heb ddeall yn pentyrru trawster,ond y mae'r un sy'n casáu llwgrwobr yn estyn ei ddyddiau.

17 Y mae un sy'n euog o dywallt gwaedyn ffoi i gyfeiriad y pwll;peidied neb â'i atal.

18 Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ddiogel,ond y mae'r sawl sy'n droellog ei ffyrdd yn syrthio i'r pwll.

19 Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn llawn tlodi.

20 Caiff y ffyddlon lawer o fendithion,ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb.

21 Nid yw'n iawn dangos ffafr,ac eto fe drosedda rhywun am damaid o fara.

22 Y mae un cybyddlyd yn rhuthro am gyfoeth;nid yw'n ystyried y daw arno angen.

23 Caiff y sawl sy'n ceryddu fwy o barch yn y diweddna'r un sy'n gwenieithio.

24 Y mae'r un sy'n lladrata oddi ar ei dad neu ei fam,ac yn dweud nad yw'n drosedd,yn gymar i'r un sy'n dinistrio.

25 Y mae'r trachwantus yn creu cynnen,ond y mae'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn cael llawnder.

26 Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd,ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb.

27 Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd,ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid.

28 Pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio,ond ar ôl eu difa, bydd y cyfiawn yn amlhau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31