Diarhebion 17 BCN

1 Gwell yw tamaid sych, a llonyddwch gydag ef,na thŷ yn llawn o wleddoedd ynghyd â chynnen.

2 Y mae gwas deallus yn feistr ar fab gwarthus,ac yn rhannu'r etifeddiaeth gyda'r brodyr.

3 Y mae tawddlestr i arian a ffwrnais i aur,ond yr ARGLWYDD sy'n profi calonnau.

4 Y mae'r drwgweithredwr yn gwrando ar eiriau anwir,a'r celwyddog yn rhoi sylw i dafod maleisus.

5 Y mae'r un sy'n gwatwar y tlawd yn amharchu ei Greawdwr,ac ni chaiff y sawl sy'n ymhyfrydu mewn trychineb osgoi cosb.

6 Coron yr hen yw plant eu plant,a balchder plant yw eu rhieni.

7 Nid yw geiriau gwych yn gweddu i ynfytyn,nac ychwaith eiriau celwyddog i bendefig.

8 Carreg hud yw llwgrwobr i'r sawl a'i defnyddia;fe lwydda ple bynnag y try.

9 Y mae'r un sy'n cuddio tramgwydd yn ceisio cyfeillgarwch,ond y mae'r sawl sy'n ailadrodd stori yn gwahanu cyfeillion.

10 Y mae cerydd yn peri mwy o loes i'r deallusna chan cernod i ynfytyn.

11 Ar wrthryfela y mae bryd y drygionus,ond fe anfonir cennad creulon yn ei erbyn.

12 Gwell yw cyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawonna chyfarfod ag ynfytyn yn ei ffolineb.

13 Os bydd i neb dalu drwg am dda,nid ymedy dinistr â'i dŷ.

14 Y mae dechrau cweryl fel diferiad dŵr;ymatal di cyn i'r gynnen lifo allan.

15 Cyfiawnhau'r drygionus a chondemnio'r cyfiawn—y mae'r ddau fel ei gilydd yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.

16 Pa werth sydd i arian yn llaw ynfytyn?Ai i brynu doethineb, ac yntau heb ddeall?

17 Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser;ar gyfer adfyd y genir brawd.

18 Un disynnwyr sy'n rhoi gwystl,ac yn mynd yn feichiau dros ei gyfaill.

19 Y mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi cynnen,a'r sawl sy'n ehangu ei borth yn gofyn am ddinistr.

20 Nid yw'r meddwl cyfeiliornus yn cael daioni,a disgyn i ddinistr a wna'r troellog ei dafod.

21 Y mae'r un sy'n cenhedlu ffŵl yn wynebu gofid,ac nid oes llawenydd i dad ynfytyn.

22 Y mae calon lawen yn rhoi iechyd,ond ysbryd isel yn sychu'r esgyrn.

23 Cymer y drygionus lwgrwobr o'i fynwesi wyrdroi llwybrau barn.

24 Ceidw'r deallus ei olwg ar ddoethineb,ond ar gyrrau'r ddaear y mae llygaid ynfytyn.

25 Y mae mab ynfyd yn flinder i'w dad,ac yn achos chwerwder i'w fam.

26 Yn wir nid da cosbi'r cyfiawn,ac nid iawn curo'r bonheddig.

27 Y mae'r prin ei eiriau yn meddu gwybodaeth,a thawel ei ysbryd yw'r deallus.

28 Tra tawa'r ffŵl, fe'i hystyrir yn ddoeth,a'r un sy'n cau ei geg yn ddeallus.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31