1 Bydd un sy'n ystyfnigo trwy ei geryddu'n fynychyn cael ei ddryllio'n sydyn heb fodd i'w adfer.
2 Pan fydd y cyfiawn yn llywodraethu, llawenha'r bobl,ond pan fydd y drygionus yn rheoli, bydd y bobl yn griddfan.
3 Y mae'r un sy'n caru doethineb yn rhoi llawenydd i'w dad,ond y mae'r un sy'n cyfeillachu â phuteiniaid yn gwastraffu ei eiddo.
4 Y mae brenin yn rhoi cadernid i wlad trwy gyfiawnder,ond y mae'r un sy'n codi trethi yn ei difa.
5 Y mae'r sawl sy'n gwenieithio wrth ei gyfaillyn taenu rhwyd i'w draed.
6 Rhwydir y drygionus gan gamwedd,ond y mae'r cyfiawn yn canu'n llawen.
7 Y mae'r cyfiawn yn gwybod hawliau'r tlodion,ond nid yw'r drygionus yn ystyried deall.
8 Y mae'r gwatwarwyr yn creu cyffro mewn dinas,ond y mae'r doethion yn tawelu dicter.
9 Os â un doeth i gyfraith â ffŵl,bydd y ffŵl yn cythruddo ac yn gwawdio,ac ni cheir llonyddwch.
10 Y mae rhai gwaedlyd yn casáu'r un cywir,ond y mae'r rhai cyfiawn yn diogelu ei fywyd.
11 Y mae'r ffŵl yn arllwys ei holl ddig,ond y mae'r doeth yn ei gadw dan reolaeth.
12 Os yw llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,bydd ei holl weision yn ddrygionus.
13 Y mae hyn yn gyffredin i'r tlawd a'r gormeswr:yr ARGLWYDD sy'n goleuo llygaid y ddau.
14 Os yw brenin yn barnu'r tlodion yn gywir,yna fe sefydlir ei orsedd am byth.
15 Y mae gwialen a cherydd yn rhoi doethineb,ond y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam.
16 Pan amlha'r drygionus, bydd camwedd yn cynyddu,ond bydd y cyfiawn yn edrych ar eu cwymp.
17 Disgybla dy fab, a daw â chysur iti,a rhydd lawenydd iti yn dy fywyd.
18 Lle na cheir gweledigaeth, bydd y bobl ar chwâl;ond gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw'r gyfraith.
19 Nid â geiriau yn unig y disgyblir gwas;er iddo ddeall, nid yw'n ymateb.
20 Fe welaist un sy'n eiddgar i siarad;y mae mwy o obaith i'r ffŵl nag iddo ef.
21 Wrth faldodi gwas o'i lencyndod,bydd yn troi'n anniolchgar yn y diwedd.
22 Codi cynnen y mae rhywun cas,ac un dicllon yn ychwanegu camwedd.
23 Y mae balchder unrhyw un yn ei ddarostwng,ond y mae'r gostyngedig yn cael anrhydedd.
24 Gelyn iddo'i hun yw'r sawl sy'n rhannu â lleidr;y mae'n clywed y felltith, ond heb ddweud dim.
25 Magl yw ofni pobl,ond diogel yw'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD.
26 Y mae llawer yn ceisio ffafr llywodraethwr,ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw cyfiawnder.
27 Y mae'r cyfiawn yn ffieiddio'r anghyfiawn,a'r drygionus yn ffieiddio'r uniawn ei ffordd.