Diarhebion 14 BCN

1 Y mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei thŷ,ond y ffôl yn ei dynnu i lawr â'i dwylo'i hun.

2 Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ofni'r ARGLWYDD,ond y cyfeiliornus ei ffyrdd yn ei ddirmygu.

3 Yng ngeiriau'r ffôl y mae gwialen i'w gefn,ond y mae ymadroddion y doeth yn ei amddiffyn.

4 Heb ychen y mae'r preseb yn wag,ond trwy nerth ych ceir cynnyrch llawn.

5 Nid yw tyst gonest yn dweud celwydd,ond y mae gau dyst yn pentyrru anwireddau.

6 Chwilia'r gwatwarwr am ddoethineb heb ei chael,ond daw gwybodaeth yn rhwydd i'r deallus.

7 Cilia oddi wrth yr un ffôl,oherwydd ni chei eiriau deallus ganddo.

8 Y mae doethineb y call yn peri iddo ddeall ei ffordd,ond ffolineb y ffyliaid yn camarwain.

9 Y mae ffyliaid yn gwawdio euogrwydd,ond yr uniawn yn deall beth sy'n dderbyniol.

10 Gŵyr y galon am ei chwerwder ei hun,ac ni all dieithryn gyfranogi o'i llawenydd.

11 Dinistrir tŷ'r drygionus,ond ffynna pabell yr uniawn.

12 Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd.

13 Hyd yn oed wrth chwerthin gall fod y galon yn ofidus,a llawenydd yn troi'n dristwch yn y diwedd.

14 Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun,a'r daionus gan ei weithredoedd yntau.

15 Y mae'r gwirion yn credu pob gair,ond y mae'r call yn ystyried pob cam.

16 Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg,ond y mae'r ffôl yn ddiofal a gorhyderus.

17 Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ffôl,a chaseir yr un dichellgar.

18 Ffolineb yw rhan y rhai gwirion,ond gwybodaeth yw coron y rhai call.

19 Ymgryma'r rhai drwg o flaen pobl dda,a'r drygionus wrth byrth y cyfiawn.

20 Caseir y tlawd hyd yn oed gan ei gydnabod,ond y mae digon o gyfeillion gan y cyfoethog.

21 Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu,ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus.

22 Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni,ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon?

23 Ym mhob llafur y mae elw,ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.

24 Eu craffter yw coron y doeth,ond ffolineb yw addurn y ffyliaid.

25 Y mae tyst geirwir yn achub bywydau,ond y mae'r twyllwr yn pentyrru celwyddau.

26 Yn ofn yr ARGLWYDD y mae sicrwydd y cadarn,a bydd yn noddfa i'w blant.

27 Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ffynnon fywioli arbed rhag maglau marwolaeth.

28 Yn amlder pobl y mae anrhydedd brenin;ond heb bobl, dinistrir llywodraethwr.

29 Y mae digon o ddeall gan yr amyneddgar,ond dyrchafu ffolineb a wna'r byr ei dymer.

30 Meddwl iach yw iechyd y corff,ond cancr i'r esgyrn yw cenfigen.

31 Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr,ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu.

32 Dymchwelir y drygionus gan ei ddrygioni ei hun,ond caiff y cyfiawn loches hyd yn oed wrth farw.

33 Trig doethineb ym meddwl y deallus,ond dirmygir hi ymysg ffyliaid.

34 Y mae cyfiawnder yn dyrchafu cenedl,ond pechod yn warth ar bobloedd.

35 Rhydd brenin ffafr i was deallus,ond digia wrth yr un a'i sarha.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31