Diarhebion 22 BCN

1 Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer,a gwell yw parch nag arian ac aur.

2 Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd:yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau.

3 Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.

4 Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDDyw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.

5 Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig,ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt.

6 Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith,ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia.

7 Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd,ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr.

8 Y mae'r un sy'n hau anghyfiawnder yn medi gofid,a bydd gwialen ei ymffrost yn methu.

9 Bendithir yr un haelam ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd.

10 Bwrw allan y gwatwarwr, a cheir terfyn ar ymryson,a diwedd ar ddadlau a gwawd.

11 Yr un sy'n hoffi purdeb meddwla geiriau grasol, y mae ef yn gyfaill i frenin.

12 Y mae llygaid yr ARGLWYDD yn gwarchod deall,ond y mae ef yn dymchwel geiriau twyllwr.

13 Dywed y diog, “Y mae llew y tu allan;fe'm lleddir yn y stryd.”

14 Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn;y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo.

15 Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn,ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho.

16 Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun,ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen.

Geiriau'r Doethion

17 Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion,a gosod dy feddwl ar fy neall;

18 oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon,ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau.

19 Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDDyr wyf yn eu dysgu iti heddiw—ie, i ti!

20 Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau,yn llawn cyngor a deall,

21 i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir,fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd?

22 Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd,a phaid â sathru'r anghenus yn y porth;

23 oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos,ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy.

24 Paid â chyfeillachu â neb a chanddo dymer ddrwg,nac aros yng nghwmni'r dicllon,

25 rhag iti ddysgu ei ffordd,a'th gael dy hun mewn magl.

26 Paid â rhoi gwystl,a mynd yn feichiau am ddyledion;

27 os na fydd gennyt ddim i dalu,oni chymerir dy wely oddi arnat?

28 Paid â symud yr hen derfynaua osodwyd gan dy hynafiaid.

29 Gwelaist un medrus yn ei waith;bydd yn gwasanaethu brenhinoedd,ond ni fydd yn gwasanaethu pobl ddibwys.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31