Diarhebion 18 BCN

1 Y mae'r un sy'n cadw ar wahân yn ceisio cweryl,ac yn ymosod ar bob cynllun.

2 Nid yw'r ynfyd yn ymhyfrydu mewn deall,dim ond mewn mynegi ei feddwl ei hun.

3 Yn dilyn drygioni fe ddaw dirmyg,a gwarth ar ôl amarch.

4 Y mae geiriau yn ddyfroedd dyfnion,yn ffrwd yn byrlymu, yn ffynnon doethineb.

5 Nid da yw dangos ffafr tuag at y drygionus,i amddifadu'r cyfiawn o farn.

6 Y mae genau'r ynfyd yn arwain at gynnen,a'i eiriau yn gofyn am gurfa.

7 Genau'r ynfyd yw ei ddinistr,ac y mae ei eiriau yn fagl iddo'i hun.

8 Y mae geiriau'r straegar fel danteithionsy'n mynd i lawr i'r cylla.

9 Y mae'r diog yn ei waithyn frawd i'r un sy'n dwyn dinistr.

10 Y mae enw'r ARGLWYDD yn dŵr cadarn;rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel.

11 Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn,ac y mae fel mur cryf yn ei dyb ei hun.

12 Cyn dyfod dinistr, y mae'r galon yn falch,ond daw gostyngeiddrwydd o flaen anrhydedd.

13 Y mae'r un sy'n ateb cyn gwrandoyn dangos ffolineb ac amarch.

14 Gall ysbryd rhywun ei gynnal yn ei afiechyd,ond os yw'r ysbryd yn isel, pwy a'i cwyd?

15 Y mae meddwl deallus yn ennill gwybodaeth,a chlust y doeth yn chwilio am ddeall.

16 Y mae rhodd rhywun yn agor drysau iddo,ac yn ei arwain at y mawrion.

17 Y mae'r cyntaf i ddadlau ei achos yn ymddangos yn gyfiawn,nes y daw ei wrthwynebwr a'i groesholi.

18 Rhydd y coelbren derfyn ar gwerylon,ac y mae'n dyfarnu rhwng y cedyrn.

19 Y mae brawd a dramgwyddwyd fel caer gadarn,a chwerylon fel bollt castell.

20 O ffrwyth ei enau y digonir cylla pob un,a chynnyrch ei wefusau sy'n ei ddiwallu.

21 Y mae'r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd,ac y mae'r rhai sy'n ei hoffi yn bwyta'i ffrwyth.

22 Y sawl sy'n cael gwraig sy'n cael daioniac yn ennill ffafr gan yr ARGLWYDD.

23 Y mae'r tlawd yn siarad yn ymbilgar,ond y cyfoethog yn ateb yn arw.

24 Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai;ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31